Mae Grŵp Tai Pennaf yn gweithredu ar draws saith sir ac yn rheoli mwy na 5,500 o gartrefi yn gwasanaethu ystod eang o anghenion tai gan gynnwys tai cyffredinol i deuluoedd, cynlluniau byw â chef...
Mae Grŵp Tai Pennaf yn gweithredu ar draws saith sir ac yn rheoli mwy na 5,500 o gartrefi yn gwasanaethu ystod eang o anghenion tai gan gynnwys tai cyffredinol i deuluoedd, cynlluniau byw â chefnogaeth, cartrefi gofal, cynlluniau gofal ychwanegol, tai gyda gofal a chefnogaeth, ac amrywiaeth eang o ddewisiadau o ran perchenogaeth tai. Rydym ymhlith y darparwyr tai a gwasanaethau cysylltiedig uchaf eu parch yng Ngogledd Cymru. Ein ‘Prif Ddiben' yw: Agor Drysau – Gwella Bywydau Mae gennym Egwyddorion Craidd a byddwn yn edrych ar yr hyn yr ydym yn ei wneud i sicrhau ein bod yn rhoi'r egwyddorion hynny ar waith: • Unplygrwydd - Gonestrwydd ac ymddiriedaeth ym mhopeth a wnawn • Gofal - Edrych ar eich ôl eich hun, eraill a chymunedau • Atebol- Cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd. • Parch - Parchu eich hun ac eraill • Cydraddoldeb - Derbyn gwahaniaethau a thrin pawb yn deg Mae gennym dros 600 o weithwyr sy'n cyfrannu at ein llwyddiant. Pennaf Housing Group operates across seven counties and manages more than 5,500 homes, serving a wide range of housing needs including general family accommodation, supported living schemes, care homes, extra care schemes, housing with care and support, and a wide variety of home ownership options. We are one of the most respected providers of housing and related services in North Wales. Our ‘Primary Purpose' is: Opening Doors – Enhancing Lives. We have Core Principles and we all look at what we do to make sure we put these principles into practice: • Integrity - Honesty and trust in all that we do • Care - Looking after yourself, others and communities • Accountable - Taking responsibility for all our actions • Respect - Respect yourself and others • Equality - Accepting differences and treating everyone fairly We have over 600 employees who contribute to our success.